Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2, Senedd a
fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 20 Mawrth 2024
Amser:
09.00 -
12.29
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13725
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jayne Bryant AS (Cadeirydd) James Evans AS Heledd Fychan AS Laura Anne Jones AS Ken Skates AS Buffy Williams AS |
Tystion: |
Gillian Baranski, Arolygiaeth Gofal Cymru Vicky Poole, Arolygiaeth Gofal Cymru Y Barnwr Jane McConnell, Dribiwnlys Addysg Cymru Rhian Davies-Rees, Tribiwnlysoedd Cymru
Sue Evans, Social Care Wales Sarah McCarty, Social Care Wales |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Tom Lewis-White (Ail Glerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Jennifer Cottle (Cynghorydd Cyfreithiol) Sian Thomas (Ymchwilydd) Michael Dauncey (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
1.2 Nododd y Cadeirydd y byddai Ken Skates AS a Laura Jones AS yn ymuno â'r cyfarfod yn hwyr, ac y byddai angen i James Evans AS adael y cyfarfod yn gynnar a'i fod wedi anfon ymddiheuriadau na fyddai’n bresennol o 11.00 ymlaen.
2.1 Bu’r Pwyllgor yn craffu ar waith Arolygiaeth Gofal Cymru.
2.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Arolygiaeth Gofal Cymru er mwyn gofyn rhai cwestiynau penodol ar gyfer yr ymchwiliad i Blant a Phobl Ifanc sydd ar yr ymylon.
2.3 Cytunodd Arolygiaeth Gofal Cymru i ddarparu nodyn ar yr adroddiad a gyhoeddwyd ynghylch yr arolygiadau o gartref plant Tŷ Cariad.
3.1 Derbyniwyd y cynnig.
4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn y sesiwn flaenorol.
5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Barnwr Jane McConnell.
6.1 Bu’r Pwyllgor yn craffu ar waith Gofal Cymdeithasol Cymru.
6.2 Cytunodd Gofal Cymdeithasol Cymru i ddarparu'r canlynol:
- pan fyddant yn cael eu cyhoeddi, y ffigurau diweddaraf o ran swyddi gweithwyr cymdeithasol sy’n wag a;
- dadansoddiad o broffiliau oedran y rhai sy’n dilyn y cwrs ymarferydd gwasanaethau cymdeithasol.
7.1 Cafodd y papurau eu nodi.
7.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Weinidog y Gymraeg ac Addysg er mwyn nodi’r materion a godwyd yn y llythyr oddi wrth gorff Prifysgolion Cymru.
8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiynau blaenorol.
8.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Weinidog y Gymraeg ac Addysg er mwyn gofyn cwestiynau dilynol ynglŷn â rhywfaint o’r dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn ar weithredu diwygiadau addysg.